R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o hygyrchedd gofal iechyd meddwl i blant a'r glasoed? OAQ(4)0502(HSS)W
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau y tu allan i oriau yn Ynys Môn? OAQ(4)0511(HSS)W
3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru gan Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru? OAQ(4)0498(HSS)
4. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau acíwt yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0499(HSS)W
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar drefniadau mynediad yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(4)0512(HSS)
6. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau nesaf yn dilyn cyhoeddi adroddiad Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru ar 23 Hydref? OAQ(4)0500(HSS)W
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar rôl arolygu annibynnol yn GIG Cymru? OAQ(4)0504(HSS)
8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gwersi i ofal iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy'n deillio o astudiaeth yr Athro Marcus Longley? OAQ(4)0503(HSS)W
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ofal i gleifion â diabetes yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0510(HSS)W
10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyflogau gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd? OAQ(4)0513(HSS)W
11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith gwasanaethau iechyd trawsffiniol ar y GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0506(HSS)
12. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru gan yr Athro Marcus Longley a gyhoeddwyd ar 23 Hydref 2014? OAQ(4)0505(HSS)
13. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o amseroedd aros presennol ar gyfer rheoli poen cronig yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0507(HSS)W
14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar amseroedd ymateb ambiwlans yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)0497(HSS)
15. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ganlyniadau yr arolwg diweddar gan Equiniti 360° Clinical? OAQ(4)0509(HSS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Cwnsler Cyffrediniol roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyfeirio'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) at y Goruchaf Lys? OAQ(4)0070(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud mewn perthynas â’r modd y cynhelir etholiadau yng Nghymru? OAQ(4)0071(CG)W
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.